Gwaddol Gwyn: Cynhadledd i ddathlu bywyd  a gwaith Gwyn Thomas

Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor gyda chefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
PL2 Pontio, 23- 24 Mawrth

Mynediad am ddim, ond bydd angen cofrestru o flaen llaw

Bron ddwy flynedd union ar ôl ei farw yn Ebrill 2016, bwriad y gynhadledd hon yw dathlu bywyd a gwaith Gwyn Thomas (1936-2016), bardd, beirniad ac ysgolhaig ymhlith yr amlycaf yng Nghymru ers diwedd y 1950au. Cynhelir y gynhadledd yng nghanolfan Pontio Prifysgol Bangor, y sefydliad yr uniaethwyd Gwyn ag ef am y rhan fwyaf o’i yrfa broffesiynol. Yng nghwmni nifer o wahanol arbenigwyr, bydd cyfle i bwyso a mesur sawl agwedd ar ei gyfraniad – llunyddiaeth, ei gyfieithiadau o ddramâu, crefydd a phlant yn ei waith - a hefyd i ystyried y gwaddol cyfoethog a adawodd ar ei ôl.

Trefnir y gynhadledd gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor gyda nawdd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ni chodir ffi gofrestru, ond dylid archebu lle o flaen llaw ar ei chyfer.