Cronfa Goffa Gwyn Thomas

Pan fu farw Gwyn Thomas ym mis Ebrill 2016, collodd Cymru drysor cenedlaethol. Am bron deugain mlynedd, dylanwadodd ar genedlaethau o fyfyrwyr fel darlithydd, athro a phennaeth y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.Llun gan Marian Delyth
 
Am dros hanner canrif, bu’n un o ysgolheigion amlycaf ei genhedlaeth ac un o feirdd mwyaf cynhyrchiol, sylweddol a phoblogaidd Cymru.
 
Er mwyn sicrhau bod gwaddol Gwyn yn un byw, rydym wedi mynd ati i sefydlu cronfa goffa i gefnogi a gwobrwyo myfyrwyr o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor – yr adran yr uniaethwyd ef â hi fel myfyriwr ac academydd ar hyd y rhan fwyaf o’i yrfa broffesiynol – a hynny yn y meysydd niferus yr ymddiddorai ef ei hun ynddynt.
 
Derbynnir pob rhodd yn ddiolchgar er cof am ŵr a adawodd ei ôl yn annileadwy. I bwy bynnag sy’n dymuno cyfrannu, deuir o hyd i fanylion “Cronfa Goffa Gwyn Thomas” yma.

Llun gan Marian Delyth