Llety

Ceir dewis eang o lety ym Mangor a’r cylch.

Mae Gogledd Cymru’n gyrchfan wyliau o fri, felly mae digonedd o lety ar gael yn y cylch. Mae ardaloedd i’w hystyried yn cynnwys arfordir Gogledd Cymru (Llandudno, Conwy, Caernarfon – a’r cyfan â gwasanaeth bws gwych yn eu cysylltu â Bangor), Ynys Môn (Biwmares, Porthaethwy, Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysyliogogoch – unwaith eto, mae’r gwasanaethau bws lleol yn wych), a Pharc Cenedlaethol Eryri (Llanberis, Capel Curig, Betws-y-Coed). Mae mwy o wybodaeth am lety yn y cylch ar gael ar wefan Darganfod Cymru.